Hosea 10

Gwrthod Addoliad Israel

1Roedd Israel fel gwinwydden iach
a'i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau.
Ond po fwya o ffrwyth gafwyd,
mwya o allorau a godwyd.
Wrth i gnydau'r tir lwyddo
byddai'r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno.
2Maen nhw'n rhagrithio,
felly byddan nhw'n cael eu cosbi.
Bydd yr Arglwydd ei hun
yn chwalu'r allorau
ac yn malu'r colofnau.
3Yn fuan iawn byddan nhw'n cyfaddef,
“Does dim brenin am ein bod heb barchu'r Arglwydd.
Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?”
4Maen nhw'n llawn geiriau gwag,
addewidion wedi eu torri,
a chytundebau diwerth.
Mae achosion llys yn lledu
fel chwyn gwenwynig mewn cae wedi ei aredig.
5Bydd pobl Samaria yn ofni
beth ddigwydd i lo Beth-afen.
10:5 Beth-afen gw. y nodyn yn 4:15.

Bydd y bobl yn galaru
gyda'r offeiriaid ffals a fu'n dathlu,
am fod ei ysblander wedi ei gipio,
6a'i gario i Asyria
yn anrheg i'r brenin mawr.

Anufudd-dod a chosb Israel

Bydd Effraim
10:6 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
yn destun sbort,
ac Israel yn cywilyddio o achos yr eilun o bren.
7Bydd Samaria'n cael ei dinistrio,
a'i brenin yn cael ei gipio
fel brigyn yn cael ei gario ar lif afon.
8Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio –
sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu.
Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau.
Byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd,
“Cuddiwch ni!”
ac wrth y bryniau,
“Syrthiwch arnon ni!” c

Yr Arglwydd yn cyhoeddi barn ar Israel

9“Israel, ti wedi pechu ers y digwyddiad erchyll yn Gibea
10:9 Gibea gw. y nodyn yn 9:9.
. A does dim byd wedi newid! Onid rhyfel oedd canlyniad yr holl ddrwg yn Gibea?
10A dw i'n barod i gosbi eto. Dw i'n mynd i gasglu'r cenhedloedd i ymosod arnat ti a dy gymryd yn gaeth am y ddau bechod.

11Roedd Effraim fel heffer wedi ei hyfforddi,
ac wrth ei bodd yn sathru'r grawn.
Ond dw i'n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf,
a gêr i wneud i Effraim aredig.
Bydd rhaid i Jwda aredig
a Jacob lyfnu'r tir ei hun!
12Heuwch hadau cyfiawnder,
a chewch gynhaeaf o gariad gen i.
Trin tir eich calon galed e
ceisio'r Arglwydd nes iddo ddod
gyda chawodydd achubiaeth.
13Ond rwyt wedi plannu drygioni,
a medi anghyfiawnder,
ac yna bwyta ffrwyth y twyll.
Ti wedi dibynnu ar gerbydau rhyfel,
a phwyso ar faint dy fyddin.
14Felly daw sŵn brwydro ar dy bobl,
a bydd dy gaerau i gyd yn syrthio.

“Bydd fel y frwydr honno pan ddinistriodd y Brenin Shalman
10:14 Shalman un o frenhinoedd Moab.
Beth-arbel, a'r mamau'n cael eu curo i farwolaeth gyda'u plant.
15Dyna fydd yn digwydd i ti, Bethel, am wneud cymaint o ddrwg! Pan fydd y diwrnod hwnnw'n gwawrio, bydd brenin Israel wedi mynd am byth.
10:15 bydd brenin … am byth Cafodd y brenin Hoshea ei ddal a'i garcharu gan fyddin Assyria cyn iddyn nhw ddechrau ymosod ar ddinas Samaria (2 Brenhinoedd 17:4)

Copyright information for CYM